Y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol

 

Ymchwiliad i’r Berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon - Papur Tystiolaeth

 

Y Berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon

 

Mae Cymru ac Iwerddon yn gymdogion agos ac maent wedi meithrin perthynas gref a chadarnhaol ar hen gysylltiadau a dealltwriaeth ddiwylliannol ddofn. Mae ein perthynas fodern a bywiog wedi tyfu o gysylltiadau hanesyddol, treftadaeth a diwylliant cyffredin, a chysylltiadau agos rhwng pobl, busnesau, diwylliannau a chwaraeon.

 

Crëwyd amgylchedd galluogi newydd ar gyfer Cymru ac Iwerddon drwy lofnodi Cytundeb Gwener y Groglith yn 1998 a arweiniodd at sefydlu’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd datblygiadau pellach sydd wedi rhoi hwb i’n hymgysylltiad ac, yn 2012, agorodd Llywodraeth Cymru swyddfa yn Llysgenhadaeth Prydain yn Nulyn i fanteisio ar y gweithgareddau hyn.

 

Mewn cyd-destun busnes, mae Cymru’n gartref i oddeutu 85 o gwmnïau sydd â phencadlys yn Iwerddon ac mae’n cyfrif Iwerddon fel ei hail farchnad allforio fwyaf y tu ôl i Unol Daleithiau America.  Mae Porthladd Caergybi, yr ail borthladd gyrru i mewn ac allan mwyaf yn y DU ar ôl Dover, yn dal yn elfen hanfodol o goridor Masnach Môr Iwerddon, hyd yn oed gyda’r heriau ar ôl Brexit.

 

Rhaglenni’r UE

Mae ein daearyddiaeth yn golygu bod Cymru ac Iwerddon yn rhannu stori forwrol gyffredin. Ers 1994, mae Rhaglen INTERREG yr UE wedi hwyluso’r broses o gydweithredu ar draws ffiniau ac adeiladu rhwydweithiau polisi ar draws Môr Iwerddon.

 

Mae rhaglen Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd Iwerddon-Cymru 2014-2020 yn rhaglen forwrol sy’n cysylltu sefydliadau, busnesau a chymunedau ar arfordir Gorllewin Cymru ag arfordir De-Ddwyrain Iwerddon. Mae’r rhaglen yn werth tua €100m yn gyffredinol, gan ddefnyddio €79m o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·                Arloesi trawsffiniol

·                Sut mae Môr Iwerddon a Chymunedau Arfordirol yn Addasu i Newid yn yr Hinsawdd

·                Treftadaeth ac Adnoddau Naturiol a Diwylliannol

 

Mae swyddogion yn parhau i weithio gyda’i gilydd i sicrhau nad yw’r llwyddiannau a geir drwy’r Rhaglen Iwerddon-Cymru yn cael eu colli a bod ymchwil yn parhau i fod ar flaen y gad o ran ein cydweithrediad ag Iwerddon. 

 

Perthynas ar ôl Brexit

 

Ar ôl i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, mae’r berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon wedi parhau i dyfu, gan adeiladu ar y sylfeini cryf sydd wedi’u gosod ers 1998. Mae digwyddiadau allweddol yn hanes parhaus ein perthynas wedi’u nodi isod.

 

Yn 2019, ail-agorodd Llywodraeth Iwerddon Swyddfa Conswl Cyffredinol Iwerddon yng Nghaerdydd. Mae ailsefydlu’r Conswl yn brawf o ymrwymiad Iwerddon i gynyddu cydweithrediad a chydweithio â Chymru ar draws y sectorau busnes, celfyddydau, chwaraeon a chymunedol.

 

Lansiwyd Cynghrair Datblygwyr y Môr Celtaidd (partneriaeth rhwng Cymru, Iwerddon, Cernyw ac Ynysoedd Sili) yn 2019 i osod sylfeini ar gyfer cydweithredu llawnach yn y Môr Celtaidd. Un aelod o’r Gynghrair yw Simply Blue Energy, sef datblygwr ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth Iwerddon gyda swyddfeydd yn Cork a Doc Penfro.  Mae’r cwmni’n gweithio mewn partneriaeth â Total Energies i ddatblygu prosiect ynni gwynt arnofiol cyntaf Cymru yn y Môr Celtaidd. Newid yn yr hinsawdd yw her ddiffiniol ein hoes a dyna pam ein bod wedi ymrwymo i flaenoriaethu camau gweithredu sy’n cefnogi’r broses o addasu a lliniaru’r hinsawdd, twf gwyrdd a’r newid i garbon sero net, ac economi gylchol.

 

Ym mis Hydref 2020, ymrwymodd Llywodraeth Iwerddon i gryfhau'r berthynas â Chymru yn ei Rhaglen Lywodraethu ac, o ganlyniad i hyn, y Cyd-ddatganiad a’r Cynllun Gweithredu ar y Cyd a lofnodwyd yn 2021, mae Cymru ac Iwerddon bellach yn cydweithio’n uniongyrchol ar lefel wleidyddol a swyddogol ar draws amrywiaeth o feysydd polisi a diwylliannol.

 

Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd Iwerddon-Cymru

 

Ym mis Mawrth 2021, lansiodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd newydd (y Datganiad) a oedd yn nodi uchelgeisiau ar y cyd ar gyfer cydweithredu rhwng Cymru ac Iwerddon tan 2025. Drwy’r Datganiad, rydym wedi ymrwymo i hwyluso a chefnogi cydweithrediadau a fydd yn sicrhau canlyniadau parhaol a chadarnhaol a fydd o fudd i’r naill ochr a’r llall.

 

Mae’r Datganiad yn nodi chwe maes blaenoriaeth ar gyfer cydweithredu:

 

1.     Ymgysylltu Gwleidyddol a Swyddogol

 

Mae’r Datganiad yn ymrwymo Gweinidogion a swyddogion i gynnal Fforwm blynyddol ar gyfer Gweinidogion Cymru ac Iwerddon er mwyn ymgysylltu â rhanddeiliaid gwleidyddol, economaidd a rhanddeiliaid ehangach a datblygu cysylltiadau a fydd yn cyflawni ar botensial cyfleoedd nawr ac yn y dyfodol.

 

2.     Yr Hinsawdd a Chynaliadwyedd

 

Mae’r ddwy lywodraeth wedi cytuno ar frys i weithredu i ymateb i her fyd-eang ddiffiniol ein hoes – newid yn yr hinsawdd. Mae’r Datganiad yn blaenoriaethu gweithio ar y cyd sy’n cefnogi datblygiad cynaliadwy, drwy addasu a lliniaru’r hinsawdd, twf gwyrdd a’r newid i garbon sero net ac economi gylchol.

 

3.     Masnach a Thwristiaeth

 

Mae’r ddwy lywodraeth wedi nodi bod llifoedd masnach yn ganolog i’r cysylltiadau economaidd cryf rhwng Iwerddon a Chymru. Mae’r bont tir sy’n cysylltu Iwerddon â marchnadoedd eraill yr UE yn chwarae rhan bwysig yn y ddwy economi. Mae Cymru ac Iwerddon wedi cytuno i weithio gyda’i gilydd i helpu busnesau i addasu i’r cyd-destun newydd a ddarperir gan Gytundeb Masnach a Chydweithredu’r UE-DU.

 

 

 

4.     Addysg ac Ymchwil

 

Mae llawer o’r cysylltiadau cryf presennol rhwng sefydliadau academaidd wedi’u selio ar raglenni’r UE fel y Rhaglen Fframwaith ar gyfer Ymchwil (Horizon 2020), Erasmus+, y Rhaglen Iwerddon-Cymru, a rhaglenni cydweithredu ymchwil y DU-Iwerddon. Drwy’r Datganiad, rydym wedi ymrwymo i gefnogi sefydliadau i ymchwilio i bob llwybr i gynnal cydweithrediadau cryf wrth i ni addasu i’r amgylchedd newydd ar ôl i’r DU adael yr UE.

 

5.     Diwylliant, Iaith a Threftadaeth

 

Mae Cymru ac Iwerddon yn elwa o dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog sy’n cael ei rhannu’n aml. Mae’r ddwy wlad yn hyrwyddo eu hunaniaeth drwy berfformwyr diwylliannol ac yn defnyddio’r diwydiannau creadigol fel arf economaidd a chymdeithasol gartref. Mae’r datganiad yn nodi sut byddwn yn parhau i gefnogi ein sefydliadau diwylliannol cenedlaethol a lleol, a’n hartistiaid, ein hawduron a’n perfformwyr i gydweithio ar draws Cymru ac Iwerddon.

 

6.     Cymunedau, Cymry/Gwyddelod ar Wasgar a Chwaraeon

 

Drwy gydol hanes, mae teuluoedd ac unigolion wedi symud rhwng Cymru ac Iwerddon. Rydym wedi ymrwymo i rannu ein profiadau o ymgysylltu â Chymry/Gwyddelod ar wasgar a dysgu oddi wrth ein gilydd i ddyfnhau a chyfoethogi ein cysylltiadau â’n cymunedau sydd ar wasgar dramor.

 

Darparu’r Cyd-ddatganiad a’r Cynllun Gweithredu ar y Cyd

 

Mae cynnydd wedi bod yn erbyn pob un o’r chwe maes cydweithredu a nodir yn y Datganiad, gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Iwerddon a’n sefydliadau partner yn bwrw ymlaen â’r gwaith. Mae enghreifftiau o gyflawni a chynnydd yn erbyn pob un o’r chwe maes yn cynnwys y canlynol, ond nid ydynt wedi’u cyfyngu iddynt:

 

1.     Ymgysylltu Gwleidyddol a Swyddogol

 

Drwy gydol 2021 a 2022, roedd chwe chyfarfod Gweinidogol dwyochrog ar wahân, yn ogystal â’r cyfarfodydd dwyochrog a gynhaliwyd yn Fforymau Gweinidogol Iwerddon-Cymru. Ym mis Ionawr 2021, trefnodd Swyddfa Llywodraeth Cymru yn Iwerddon a Swyddfa Conswl Cyffredinol Iwerddon yng Nghaerdydd ddigwyddiad ar y cyd rhwng Cenhadaeth Iwerddon a’r DU i’r Cenhedloedd Unedig o’r enw “Small Nations, Big Ambitions: Future Generations and Gender Equality”.

 

Ym mis Hydref 2022, cafodd Swyddfa Conswl Cyffredinol Iwerddon yng Nghaerdydd ei hagor gan Simon Coveney TD, Gweinidog Tramor Iwerddon. Mae dau Fforwm Gweinidogol Iwerddon-Cymru wedi cael eu cynnal, un yng Nghaerdydd ac un yn Cork, a oedd yn cynnwys trafodaethau rhwng naw Gweinidog gwahanol - bydd Fforwm Gweinidogol 2023 yn cael ei gynnal yng Ngogledd Cymru.

 

2.     Yr Hinsawdd a Chynaliadwyedd

 

Rydym wedi cefnogi Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i gymryd rhan mewn ffrwd waith cyfnewid polisi ar gynaliadwyedd, gan gynnwys trefnu ymweliad â Dulyn ym mis Hydref 2022. O ganlyniad i’r gwaith hwn, daeth aelod o Blaid Werdd Iwerddon â bil aelodau preifat i’r Dáil ar Genedlaethau’r Dyfodol ac mae Llysgennad Ieuenctid y Cenhedloedd Unedig yn Iwerddon 2022 wedi cael ei ddewis yn Llysgennad Byd-eang Cenedlaethau’r Dyfodol.

 

Daeth Greenlink Interconnector i ben yn ariannol ym mis Mawrth 2022 ac, ym mis Mawrth 2023, rhoddodd Llywodraeth Cymru ganiatâd i Simply Blue Energy ddatblygu fferm wynt arnofiol gyntaf Cymru.  Aeth Enterprise Ireland i Gynhadledd Flynyddol Ynni’r Môr Cymru yn 2023 i archwilio cyfleoedd ar gyfer y gadwyn gyflenwi yn y Môr Celtaidd.

 

3.     Masnach a Thwristiaeth

 

Ym mis Tachwedd 2021, fe wnaeth Taoiseach gwrdd â buddsoddwyr o Iwerddon yn Neuadd y Ddinas Caerdydd, pob un ohonynt yn cefnogi ein huchelgeisiau Sero Net. Mae pedair taith fasnach wahanol wedi bod i Iwerddon ers llofnodi’r Datganiad, gyda 26 o gwmnïau’n teithio i Iwerddon o sectorau fel ynni adnewyddadwy, gwasanaethau ariannol a gwyddorau bywyd. Yn dilyn y Fforwm Gweinidogol cyntaf yn 2021, mae Enterprise Ireland hefyd wedi cefnogi cwmnïau i ymweld â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i ddatblygu cydweithrediad masnach.

 

4.     Addysg ac Ymchwil

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio dwy gronfa ymchwil Cymru Ystwyth i gefnogi'r broses o gydweithio â Sefydliadau o Iwerddon ar draws Môr Iwerddon. Ar ôl lansio’r Datganiad, mae’r ddwy lywodraeth wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i edrych ar gyfleoedd cyllido yn y dyfodol i sicrhau bod y cynnydd a’r partneriaethau a wneir drwy raglen Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd Iwerddon-Cymru yn gallu parhau.

 

Yn 2021, lansiwyd “Cynghrair yr Academïau Celtaidd” i gyfuno arbenigedd mewn heriau cyffredin. Mae hon yn bartneriaeth rhwng yr Academi Frenhinol Wyddelig, Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Chymdeithas Frenhinol Caeredin.

 

Lansiodd Llywodraeth Cymru’r rhaglen Taith yn 2022, sydd wedi cael ei hyrwyddo ar draws Iwerddon. Mae’r gwaith hyrwyddo hwn yn cynnwys ymweliad y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg â Dulyn ym mis Mawrth 2023. Hefyd, yn ystod yr ymweliad hwn, cyfarfu’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg â sefydliadau academaidd allweddol, Gweinidogion Llywodraeth Iwerddon, a phartneriaid diwylliannol ac ieithyddol i gadarnhau ein hymrwymiad i’r berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon.

 

5.     Diwylliant, Iaith a Threftadaeth

 

Ym mis Mai 2022, roedd swyddfa Llywodraeth Cymru yn Iwerddon yn nodi Degawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig drwy gynnal darlith gyntaf Dewi Sant a San Padrig o'r enw: Dewi Padraig Dialogue, mewn partneriaeth â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Phrifysgol Dinas Dulyn. Roedd hefyd yn lansiad yr ymgyrch Gwrando gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Mae ein Cynghorau Celfyddydau yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn rhannu’r hyn a ddysgwyd am heriau cyffredin. Mae tîm Llywodraeth Cymru yn Iwerddon wedi cefnogi arddangosfeydd artistig yng Ngŵyl Ffilmiau Dulyn, Gŵyl Ymylol Dulyn a Gŵyl San Padrig.

 

Mae’r berthynas rhwng ein Hamgueddfeydd Cenedlaethol yn parhau i dyfu, gan gynnwys cymryd rhan mewn cynhadledd ‘Hawliau Diwylliannol, Democratiaeth Ddiwylliannol’. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon wedi cefnogi’r bartneriaeth Lleisiau Eraill/Other Voices yn Dingle ac yn Aberteifi, gyda’r Prif Weinidog yn mynychu digwyddiad Aberteifi yn 2022.

 

Rydym wedi parhau i gefnogi partneriaeth Coláiste Lurgan ac Urdd Gobaith Cymru yn ogystal â lansiad Ewropeaidd yr Urdd yn 2023, sef ‘Chwarae yn Gymraeg’, yn Gaelscoil Thaobh na Coille yn Nulyn, lle bu’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn ymweld â disgyblion a oedd yn cymryd rhan yng ngweithdy’r Urdd. Trefnodd Swyddfa Conswl Cyffredinol Iwerddon yng Nghaerdydd ddigwyddiadau Gaeltacht bob mis rhwng mis Ebrill 2021 a mis Awst 2022, yn ogystal â gweithio ar y cyd â Culture Ireland i gefnogi Gŵyl y Gelli a’r Youth Literature Laureates. Mae Llywodraeth Iwerddon wedi cefnogi dysgu Gwyddeleg ym Mhrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caerdydd yn 2020/21 a 2021/22 ac i fyfyrwyr o’r cyrsiau hyn dreulio cyfnod yn astudio yn y Gaeltacht yn Iwerddon.

 

6.     Cymunedau, Cymry/Gwyddelod ar Wasgar a Chwaraeon

 

Mae un o swyddogion Llywodraeth Cymru yn cael secondiad i’r Uned Gwyddelod Tramor yn Adran Materion Tramor Iwerddon i ddysgu sut mae Llywodraeth Iwerddon yn ymgysylltu â Gwyddelod sydd ar wasgar. Mae'r gwaith hwn yn cyd-fynd â’n Cynllun Gweithredu Cymry ar Wasgar. Mae Swyddfa Conswl Cyffredinol Iwerddon wedi hyrwyddo Rhaglen Cefnogi Ymfudwyr Llywodraeth Iwerddon sydd wedi gweld cynnydd yn nifer y ceisiadau.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn Iwerddon a’r Swyddfa Conswl Cyffredinol yng Nghaerdydd wedi cynnal digwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi, Dydd San Padrig a Dydd Santes Ffraid bob blwyddyn.

 

Mae swyddfa Llywodraeth Cymru yn Iwerddon yn parhau i gefnogi gemau rygbi’r Chwe Gwlad i Ddynion a Merched yn Nulyn ac yng Nghaerdydd. Yn ystod Twrnamaint Cwpan y Byd Timau Dynion FIFA 2022, cynhaliodd ein swyddfa yn Iwerddon dderbyniad rhwydweithio ar gyfer gêm Cymru yn erbyn UDA yn ogystal â digwyddiad sgwrsio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a chyn chwaraewyr Cymru.

 

Cynlluniau a Sialensiau i’r Dyfodol

 

Trosolwg

 

Mae ein partneriaid yn ystyried Cyd-ddatganiad Iwerddon-Cymru yn gadarnhaol gan ei fod yn rhoi llwyfan iddynt ddatblygu cysylltiadau cryfach a ffurfio cydweithrediadau a phartneriaethau newydd gyda chefnogaeth gan y ddwy lywodraeth.  Mae’r Datganiad yn canolbwyntio ar randdeiliaid i sicrhau bod y cyfleoedd sy’n cwmpasu meysydd cyffredin ar gyfer ymgysylltu gwleidyddol, economaidd a diwylliannol yn cael eu gwireddu. Mae’r ddwy lywodraeth yn ystyried bod y berthynas rhwng y ddwy wlad y cryfaf y bu ers blynyddoedd lawer.

 

Mae llawer o’r uchelgeisiau ar gyfer y Datganiad wedi cael sylw ac maent naill ai wedi’u cyflawni neu ar y gweill. Yng nghyfarfodydd diweddar y grŵp llywio, rhoddwyd ystyriaeth i ddiwygio neu ymestyn y nodau presennol er mwyn cael yr effaith fwyaf posibl. Wrth i ni gyrraedd hanner ffordd y Datganiad, mae ystyriaeth gynnar yn cael ei rhoi yn awr i ddatganiad diwygiedig neu ddatganiad yn y dyfodol y gall y ddwy lywodraeth gytuno arno ac ymrwymo i’w gyflawni ar ôl 2025.

     


 

Cysylltiadau Addysgol

 

Mae cysylltiadau addysgol cryf rhwng sefydliadau yng Nghymru ac Iwerddon drwy gyfnewidiadau uniongyrchol, cysylltiadau hanesyddol a rhaglenni ymchwil byw. Mae pryder, heb benderfyniad cyllido a chwblhau’r ffrwd gyllido Interreg bresennol, y bydd rhai cysylltiadau ar y cyd rhwng Iwerddon a Chymru yn cael eu colli.

 

Mae datblygiad parhaus Cynghrair yr Academïau Celtaidd a’r ymrwymiad cynyddol gan y Gymdeithas Ddysgedig yn gadarnhaol ac mae ganddo’r potensial i greu a datblygu cysylltiadau newydd a meysydd ymchwil ar y cyd rhwng prifysgolion Cymru ac Iwerddon.

 

Mae’r rhaglen Taith wedi cael derbyniad da yn Iwerddon ac, er bod y cylch presennol wedi’i ymrwymo, mae rhagor o gyfleoedd i weld mwy o bobl yn cymryd rhan yn Iwerddon ac rydym yn annog rhaglen allgymorth ragweithiol i hyrwyddo Taith ymysg ysgolion yn Iwerddon, sefydliadau trydyddol ac addysg bellach.

 

Cyllid

 

Mae’r her sylweddol ac allweddol i gyflawni’r Datganiad yn parhau o ran cyllid. Mae prosiectau a rhaglenni cydweithredol cadarn a phendant wedi cael eu cyflawni drwy gyllid Interreg a fydd yn cael ei dynnu’n ôl yn 2023 - yn fwyaf nodedig y rhwydwaith Gwyddor Bywyd Calin a phrosiect Slekie sy’n darparu atebion mapio ar gyfer y sector ynni ar y môr – heb gyllid arall ar waith.  

 

Mae trafodaethau’n parhau rhwng yr adrannau cyllido perthnasol ar ddewisiadau eraill i alluogi cydweithio yn y dyfodol a phrosiectau presennol i barhau i gyflawni, fodd bynnag, byddai maint y cyllid ar raddfa lawer is. Drwy Fframwaith Windsor, sy’n nodi cyd-adolygiadau Llywodraeth y DU a’r Comisiwn Ewropeaidd o Brotocol Gogledd Iwerddon, mae optimistiaeth y gall llwybr posibl ar gyfer cysylltiad y DU â Horizon Ewrop sicrhau mynediad at gyfleoedd cyllido newydd, er na fydd hyn yn cael ei wireddu yn y dyfodol agos.

 

Yr Economi

 

Mae’r cysylltiadau economaidd rhwng Cymru ac Iwerddon yn dal yn gryf, gyda Buddsoddwyr o Iwerddon yn parhau i ailfuddsoddi mewn gweithrediadau ac allforwyr yng Nghymru a ddaeth i ymweld â’r farchnad yn Iwerddon yn ddiweddar.

 

Bydd ffocws ar gyfer cysylltiadau economaidd yn y dyfodol o fewn y sector ynni adnewyddadwy a’r cyfleoedd sy’n bodoli ym Môr Iwerddon. Mae cyfleoedd ar gael i ddatblygwyr ynni, y gadwyn gyflenwi adeiladu, datblygu porthladdoedd a gwaith cynnal a chadw parhaus. Mae potensial cryf i Gymru ac Iwerddon elwa ar y cyd o’r cyfleoedd hyn a dylai cyd-ddatganiad yn y dyfodol ganolbwyntio ar y meysydd cyffredin hyn a bu hon yn thema ganolog yn y fforymau gweinidogol.

 

Mae trafodaethau’n parhau hefyd gyda thimau’r Ffiniau ynghylch y newidiadau sydd ar y gweill, gan gynnwys cyflwyno safleoedd rheoli ffiniau.  Mae’n bwysig yn economaidd bod llwybrau masnach rhwng Cymru ac Iwerddon yn aros mor ddi-drafferth ag sy’n bosibl mewn perthynas â newidiadau arfaethedig yn y dyfodol. 

 


 

Gwleidyddiaeth

 

Un elfen gref o’r Datganiad oedd ymrwymiad arweinwyr ar y ddwy ochr i gwrdd yn flynyddol mewn Fforwm Gweinidogol sy’n cylchdroi rhwng y ddwy wlad.  Mae'r Fforymau hyn yn gyfle i nodi’r cynnydd yn erbyn amcanion y Datganiad, dangos ei themâu canolog – gan gynnwys cysylltiadau diwylliannol neu addysgol fel enghreifftiau - a darparu llwyfan i drafod meysydd cydweithio yn y dyfodol. Bydd y Fforwm nesaf yn cael ei gynnal yng Ngogledd Cymru ym mis Hydref 2023.

 

Bydd Gweinidogion ar y naill ochr a’r llall hefyd yn cwrdd yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig drwy gydol y flwyddyn. Fodd bynnag, mae’r Fforwm Gweinidogol pwrpasol yn parhau i fod yn elfen bwysig o’r rhaglen ac mae’n dangos ymrwymiad y ddwy lywodraeth i’r Datganiad.  Rhaid i gyfarfodydd o’r fath barhau ac ymddangos mewn unrhyw gytundeb diwygiedig neu gytundeb yn y dyfodol.

 

Rhannu Polisïau

 

Mae cydweithio, rhannu arferion gorau a dysgu polisi yn themâu ac uchelgeisiau cyffredin yn y Datganiad. Un enghraifft uniongyrchol o hyn yw secondiad un o swyddogion Llywodraeth Cymru i Adran Materion Tramor Llywodraeth Iwerddon. Mae hwn wedi bod yn gyfle i ni ddysgu, deall a phrofi dull Iwerddon o ymgysylltu â Gwyddelod ar wasgar a llywio ein dull ein hunain o weithio gyda’r Cymry sydd ar wasgar. Mae adrannau eraill y llywodraeth hefyd wedi creu cysylltiadau newydd ac wedi rhannu’r arferion gorau a’r datblygiadau polisi cyfredol. 

Wrth symud ymlaen, mae mwy o gyfleoedd i gysylltu â swyddogion ar draws meysydd polisi yn cael eu nodi i rannu’r hyn a ddysgwyd.

 

Mae awydd parhaus i gydweithio rhwng ein dwy lywodraeth yn y dyfodol ac mae Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd 2020-2025 yn rhoi sylfaen gref i ni fwrw ymlaen â’n perthynas ymhellach.